Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
19 Hydref 2016
Amser y
cyfarfod: 13.30
(10 munud)
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(10 munud)
(30 munud)
NDM6124 Elin Jones (Ceredigion):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3 a 17.13(ii), yn ethol Dai Lloyd (Plaid Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
NDM6125
Elin Jones
(Ceredigion):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 17.3 a 17.13(ii), yn ethol;
1. Llyr Gruffydd (Plaid Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a
2. Adam Price (Plaid Cymru) fel eilydd ar gyfer y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
(60 munud)
NDM6121 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd llywodraeth leol dda wrth gyfrannu at yr economi, y gwasanaeth iechyd a chanlyniadau addysgol lleol.
2. Yn gresynu bod gormod o wasanaethau cyhoeddus wedi bod yn "wan ac anghyson", ac wedi'u nodweddu gan "ddiffyg uchelgais", fel y mae Comisiwn Williams yn ei ddisgrifio.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) cynyddu atebolrwydd llywodraeth leol drwy ddiwygio trefniadau etholiadol a gostwng yr oedran pleidleisio i 16;
(b) archwilio'r ffordd y gellir diwygio cyllid llywodraeth leol i sicrhau system decach a mwy cynaliadwy;
(c) cyflwyno cyfres o gyfraddau, telerau ac amodau cyflog a gaiff eu penderfynu'n genedlaethol, i reoli cyflogau swyddogion uwch a phrif swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol; a
(d) sefydlu awdurdodau cyfunol rhanbarthol fel rhan o ymdrech Llywodraeth Cymru i ddiwygio llywodraeth leol ar gyfer gwella cydweithrediad rhanbarthol rhwng awdurdodau lleol presennol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1.Paul
Davies (Preseli Sir Benfro):
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) archwilio'r ffordd y caiff llywodraeth leol ei chyllido, er
mwyn sicrhau bod awdurdodau gwledig yn cael cyllid teg sy'n
gyfartal i bob cymuned ledled Cymru; a
(b) gwella tryloywder o ran cyllidebu uwch staff awdurdodau
lleol er mwyn sicrhau bod cyflogau swyddogion gweithredol yn
gynaliadwy ac yn gosteffeithiol i dalwyr y dreth gyngor, a heb fod
ar draul darparu gwasanaethau lleol.
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) cynyddu atebolrwydd llywodraeth leol drwy'r trefniadau etholiadol a gostwng yr oedran pleidleisio i 16;
(b) archwilio'r ffordd y gellir diwygio cyllid llywodraeth leol i sicrhau system decach a mwy cynaliadwy;
(c) parhau i archwilio'r achos o blaid cyflwyno cyfres o gyfraddau, telerau ac amodau cyflog a gaiff eu penderfynu'n genedlaethol, i reoli cyflogau uwch-swyddogion a phrif swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol; a
(d) sefydlu trefniadau rhanbarthol fel rhan o ddiwygiadau Llywodraeth Cymru i lywodraeth leol er mwyn gwella cydweithredu rhanbarthol rhwng yr awdurdodau lleol presennol.
(60 munud)
NDM6120
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn penderfynu sefydlu senedd ieuenctid i Gymru.
(60 munud)
NDM6119 Huw Irranca–Davies (Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i Fil Cymru Llywodraeth y DU, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Hydref 2016.
(30 munud)
NDM6118
Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Gwneud lobïo yng Nghymru yn fwy agored.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 1 Tachwedd 2016